Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

Environment and Sustainability Committee

 

 

 

 

 

 

 

                   

                                         

                 13 Awst 2012

 

 

Annwyl Gyfaill

 

Mae Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n cynnal ymchwiliad byr i bolisi morol yng Nghymru.

 

Diben yr ymchwiliad hwn fydd:

·                Asesu’r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru o ran gweithredu Deddf y Môr 2009, yn benodol, mewn cysylltiad â phwerau cadwraeth forol a chynllunio gofodol morol y Ddeddf;

·                Asesu’r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru tuag at gyflawni ei chyfrifoldebau Ewropeaidd yn y maes hwn, yn arbennig o ran y Gyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol, y Gyfarwyddeb Adar, y Gyfarwyddeb Cynefinoedd, y Gyfarwyddeb Ansawdd Dŵr Ymdrochi a’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.

Bydd y Pwyllgor yn ystyried:

·                Pa gynnydd a wnaed i ddatblygu cynlluniau gofodol morol ar gyfer Cymru?

·                Beth yw statws ardaloedd morol gwarchodedig Cymru ar hyn o bryd, a pha rôl a ddylai’r parthau cadwraeth morol newydd ei chael o ran y rhwydwaith o ardaloedd gwarchodedig hyn?

·                Datblygiad swyddogaethau Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â thrwyddedu morol a physgodfeydd, ac ystyried a fu’n effeithiol?

·                Pa gynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru i weithredu cyfarwyddebau Ewropeaidd allweddol?

·                A oes digon o gydgysylltiad a chyd-weithredu rhwng Llywodraeth Cymru a’r gweinyddiaethau cyfagos iddi, mewn cysylltiad â rheoli’r moroedd?

·                A oes gan Lywodraeth Cymru ddigon o adnoddau ariannol a staff i gyflawni ei chyfrifoldebau o ran polisi a deddfwriaeth forol?

·                A yw rhanddeiliaid wedi cael eu cynnwys yn ddigonol yn y gwaith o lunio polisïau newydd a datblygu deddfwriaeth?

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

Mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan unigolion a sefydliadau. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, rhowch ddisgrifiad byr o swyddogaeth eich sefydliad.

 

Byddwn yn cynnal sesiynnau tystiolaeth lafar yn ystod tymor yr hydref 2012, felly byddai’n ddefnyddiol pe gallech nodi yn eich cyflwyniad a fyddech yn barod i roi tystiolaeth lafar, pe byddem yn eich gwahodd i wneud hynny.

 

Yn gyffredinol, byddwn yn gofyn am gyflwyniadau ysgrifenedig oherwydd mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi’r dystiolaeth a gyflwynir i’r Pwyllgor ar ein gwefan fel bod cofnod cyhoeddus ohoni.  Fodd bynnag, gallwn hefyd dderbyn tystiolaeth mewn fformat sain neu fideo.  Croesawir cyfraniadau yn Gymraeg neu yn Saesneg, ac rydym yn gofyn bod sefydliadau sydd â pholisiau /chynlluniau Iaith Gymraeg yn darparu ymatebion dwyieithog, lle bo hynny’n berthnasol, yn unol â’u polisïau gwybodaeth cyhoeddus.

 

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig o’ch cyflwyniad at PwyllgorAC@cymru.gov.uk.  Fel arall, gallwch ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor, Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.

 

Dylai cyflwyniadau ddod i law erbyn dydd Gwener 21 Medi 2012.  Efallai na fydd modd i ni ystyried ymatebion a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn.

 

Mae copi o’r llythyr hwn wedi’i roi ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno barn.

 

Datgelu Gwybodaeth

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i ymchwiliad/bwyllgor.  O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad.  Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol.

 

Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych.  Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.

 

Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn.  Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.

 

Yn gywir

Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC

Cadeirydd